Yr wythnos diwethaf, cynhaliodd ein tîm ddigwyddiad ar-lein ar gyfer Cyfeirwyr Dibynadwy WeMindTheGap. Roedd yn wych gweld dros 20 o fynychwyr, o amrywiaeth o wahanol sefydliadau ar draws Gogledd Cymru.

Yn ystod y digwyddiad, fe wnaethom ni dynnu sylw at lwyddiant ein partneriaethau atgyfeirio hyd yma, a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ein cynigion rhaglenni cyfredol.

Gyda WeGrow Sir y Fflint wedi hen ddechrau, mae WeGrow Wrecsam yn dal i dderbyn atgyfeiriadau ar gyfer dechrau mis Ionawr, ac mae'n agored i bobl ifanc 18-25 mlwydd oed yn Wrecsam.

Ar ben hynny, gall ein rhaglen WeDiscover ddarparu cymorth i unrhyw berson ifanc ledled Sir y Fflint, Wrecsam a Gogledd Cymru, rhwng 16 a 25 mlwydd oed. Mae'r rhaglen hon yn un rithwir gan amlaf, a gall fod yn gam cyntaf gwych i lawer o bobl ifanc sy'n cael trafferth cymdeithasu a chwrdd â phobl newydd.

Fe wnaethom ni hefyd rannu rhai canfyddiadau hanfodol o'n Sgwrs Fawr, am yr hyn mae ein pobl ifanc angen yn sgil y pandemig, a sut y gallwn ni gydweithio i adeiladu mwy o ymddiriedaeth a chyrraedd y rhai sydd fwyaf angen ein help. I'r perwyl hwn, rydym ni'n croesawu partneriaid i ymuno â ni ar gyfer Hyfforddiant Newid Ymddygiad Com-B ar18 Ionawr:Com-B Training Eventbrite

Os hoffech chi ddysgu mwy am ein rhaglenni presennol, neu ein Sgwrs Fawr, edrychwch ar ein sleidiau o'r digwyddiad, a'n hadroddiad Sgwrs Fawr isod:

Cyflwyniad Digwyddiad Atgyfeirwyr Dibynadwy WMTG

WeMindTheGap – canfyddiadau ac ymateb

Os ydych chi'n adnabod person ifanc rhwng 16 a 25 mlwydd oed a fyddai'n elwa o'n rhaglenni WeDiscover neu WeGrow llenwch ein Ffurflen Atgyfeirio WeGrow & WeDiscover a'i dychwelyd at arweinwyr ein rhaglen fel a ganlyn:

WeDiscover Sir y Fflint – victoria@wemindthegap.org.uk

WeDiscover Gogledd Cymru a Wrecsam – rebecca@wemindthegap.org.uk

WeGrow Wrecsam – jasmine@wemindthegap.org.uk

WeGrow Sir y Fflint – laura@wemindthegap.org.uk

Diolch unwaith eto a byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ddigwyddiadau yn y flwyddyn newydd.

Rydym ni'n gobeithio cynnal digwyddiadau yn y dyfodol yn y flwyddyn newydd, i barhau i dyfu ein partneriaethau a meithrin ein hymrwymiad i gydweithio i ddiwallu anghenion ein pobl ifanc yn well.

Cadwch lygad am gyfleoedd i ymuno â ni yn y dyfodol, byddem wrth ein bodd yn cwrdd â chi!

Rhannu'r stori hon

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr

Mae'r wefan hon wedi'i diogelu gan reCAPTCHA ac mae Polisi PreifatrwyddThelerau Gwasanaeth Google yn berthnasol.

Dilynwch ni