CODI ARIAN
Fel elusen, rydym ni'n dibynnu ar gefnogaeth ein cymunedau gwych i'n helpu i godi arian sy'n newid bywydau. Mae gennym ni gynlluniau i ddod â'n rhaglenni i fwy o gymunedau, ac i gyrraedd mwy o bobl ifanc, ac rydym ni angen eich help chi. Bydd pob punt a cheiniog a godir yn ein helpu i ddarparu dyfodol i berson ifanc nad oedden nhw'n credu oedd yn bosib - gan roi dewisiadau go iawn iddyn nhw yn eu bywyd a'u gyrfa.
Pan fyddwn ni'n dweud newid bywyd, rydym ni wir yn ei olygu. Cwrdd â rhai o'r bobl ifanc sydd wedi cwblhau ein rhaglenni.
I bob person sy'n estyn am eu hesgidiadu ymarfer corff i gwblhau her, pob cwmni sy'n ein dewis ni fel eu helusen y flwyddyn, pob grŵp codi arian sy'n codi punnoedd a cheiniogau i ni - rydyn ni mor ddiolchgar am eich cefnogaeth.
Lawrlwytho
pecyn codi arian
Mae gennym ni ffurflenni noddi, posteri a thystysgrifau i helpu eich codi arian gwych
Postio llun ar y
cyfryngau cymdeithasol
Peidiwch ag anghofio postio lluniau o'ch codi arian gwych ar Twitter, Facebook ac Instagram
Ewch i'n tudalen Enthuse i wneud cyfraniad yn gyflym ac yn ddiogel gan ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd.
I roi gyda cherdyn credyd/debyd, neu drefnu i alw heibio'r swyddfa, ffoniwch
Rydym ni'n chwilio am 100 o bobl sy'n gallu cyfrannu £100. Allwch chi ddod yn un o'n 100 o arwyr a'n helpu i drawsnewid dyfodol rhywun?
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gadael etifeddiaeth i'n helusen drwy eich ewyllys, siaradwch â'n Prif Weithredwr ar:
neu e-bostiwch
Gwnewch sieciau'n daladwy i WeMindTheGap a'u postio i WeMindTheGap , Tŷ Avow, 21 Stryd Egerton, Wrecsam, LL11 1ND.
Cofiwch gynnwys nodyn gyda'ch enw a'ch cyfeiriad fel y gallwn ni ysgrifennu a dweud diolch – peidiwch ag anfon arian parod yn y post.
P'un a allwch chi roi £1, £10, neu £100 y mis - mae pob punt a cheiniog yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'r bobl ifanc rydyn ni'n eu cefnogi.
P'un a ydych chi'n dod o gwmni, clwb chwaraeon, neu grŵp codi arian – mae mabwysiadu WeMindTheGap fel eich 'elusen y flwyddyn' yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau'r bobl ifanc rydyn ni'n eu cefnogi.
Gallwn eich helpu gyda llawer o syniadau codi arian, a gallwn hyrwyddo eich cefnogaeth trwy'r cyfryngau cymdeithasol ac ar ein gwefan.
@WeMindTheGapUK
@wemindthegapp
Ffoniwch ni
0333 939 8818Rydym yn Meddwl y Bwlch
Tŷ Avow
21 Stryd Egerton
Wrecsam
LL11 1ND
E-bostiwch ni
admin@wemindthegap.org.ukGyda diolch mawr i
Mae WeMindTheGap yn cael ei ariannu'n rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
© 2024 WeMindTheGap | Cedwir pob hawl | Rhif elusen: 1161504
Dyluniad ac adeiladwaith y safle gan